Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Medi 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:31 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Mark Jeffs, Swyddfa Archwilio Cymru Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2 Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt'
2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt'. Gyda'r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer yr eitem hon roedd Mark Jeffs a Geraint Norman. Yn y sesiwn friffio cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi cwestiynau.
Camau gweithredu:
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
· Mwy o wybodaeth yn tynnu sylw at yr arferion da mewn Byrddau Iechyd o ran amcanestyniadau ariannol.
Gofynnwyd i'r Clercod:
· Drafod gyda Llywodraeth Cymru a gafodd unrhyw fformiwlâu eu defnyddio i benderfynu faint o gyllid ychwanegol a gafodd pob Bwrdd Iechyd Lleol ym mis Rhagfyr 2012.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2013.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5 Trafod y dull o ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt'
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i 'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt'. Yn benodol, cytunwyd i ganolbwyntio ar y canlynol:
· Ansawdd y cynlluniau tair blynedd a'r perygl o orlwytho yn y flwyddyn gyntaf
· Yr anawsterau o ran sicrhau arbedion
· Dirywiad o ran perfformiad mewn rhai meysydd gwasanaeth
· Diwygio gwasanaethau a'r cysylltiad â lleihau costau
· Y cynnydd mewn hawliadau esgeuluster
· Y modd y caiff blaenoriaethau Haen 1 eu penderfynu
6 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Trafod y materion a godwyd
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft.